Giovanni Di Stefano
Mae cyfreithiwr o’r Eidal sy’n cael ei adnabod fel “plediwr y diafol” am iddo gynhrychiolu rhai o droseddwyr enwocaf y byd wedi cael ei arestio yn Sbaen ar warant Prydeinig.

Cafodd Giovanni di Stefano, 55, ei ddal mewn plasdy yn Palma, prif ddians Majorca, neithiwr.

Mae ymchwilwyr heddlu Llundain wedi bod yn ceisio cael gafael ynddo mewn cysylltiad â chyhuddiad o dwyll yn dyddio’n ôl nifer o flynyddoedd.

Yn ôl ffynhonell agos at yr ymchwiliad, cafodd warant ei gyhoeddi yn mis Ionawr ar ôl adolygiad o waith papur yr achos.

Mae adroddiadau lleol yn dweud bod Giovanni di Stefano wedi mynd yn sâl wrth iddo gael ei arestio a’i fod wedi mynd i’r ysbyty am driniaeth.

Mae’r cyfreithiwr yn ŵr busnes ac yn gyfreithiwr sydd wedi gwneud enw iddo’i hun wrth ymgymryd â rhai o achosion mwyaf y ddegawd ddiwethaf.

Ef oedd un o’r nifer o gyfreithwyr an-Arabaidd a fu’n ymgynghori gyda thîm cyfreithiol Saddam Hussein.

Yn gynharach yn y mis, fe ddaeth hi’n amlwg ei fod wedi cytuno i gynrhychiolu’r llofrudd Charles Manson, sy’n herio’i ddedfryd.

Ym Mhrydain, mae e wedi cynrhychioli’r lleidr trenau Ronnie Biggs yn y gorffennol, a’r llofrudd Jeremy Bamber.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dinas Llundain fod “dyn 55 oed wedi ei arestio gan heddlu Sbaen yn Palma de Mallorca ar 14 Chwefror.

“Cymerwyd y camau hyn yn sgîl warant arestio Ewropeaidd a gyhoeddwyd gan Lys yr Ynadon Dinas San Steffan ar 31 Ionawr ar fater yn ymwneud â thwyll.”