Pymtheg mlynedd wedi trychineb y Sea Empress, mae rali wedi cael ei gynnal yn Aberdaugleddau heddiw i geisio achub gorsaf gwylwyr y glannau.

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn cyd-weithio i drefnu’r rali ers mis Rhagfyr, ac maen nhw wedi ymgynnull yn Aberdaugeddau heddiw er mwyn gwrthwynebu toriadau a fyddai’n gweld y gwasanaeth yn diflannu o’r dref borthladd.

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi cynlluniau i gau gwasanaeth gwylwyr y glannau Aberdaugleddau, a rhoi’r gwaith yn nwylo gorsaf Abertawe yn ystod y dydd, a gorsaf Southampton yn ystod y nos, gan golli 24 o swyddi yn y dre.

Aberdaugleddau yw’r trydydd porthladd fwyaf ym Mhrydain o ran tunnelli mewnforion erbyn hyn, ac mae’r Aelod Cynulliad lleol Nerys Evans, a fu yng nghlwm wrth drefnu’r rali, wedi ei alw’n gam “cwbwl anigonol, diofal a pheryglus” i arfordir Gorllewin Cymru.

Gwybodaeth leol

“Yn ôl cynlluniau Llywodraeth Prydain bydd yna ddim un gwasanaeth achub yng Nghymru yn ystod y nos, gan fod galwadau i fod i gael eu hateb o Southampton,” meddai’r Aelod Cynulliad dros ganolbarth a gorllewin Cymru.

“Mae gwylwyr y glannau Aberdaugleddau yn cael eu profi ar eu gwybodaeth leol o leiaf dwywaith y flwyddyn,” – gwybodaeth a fydd yn cael ei golli, meddai, os yw’r gwasanaeth yn symud o’r ardal.

“Mae’n anodd iawn gweld sut y byddai staff yn Southampton yn gallu deall enwau lleoedd Cymraeg. Mae enwau Cymraeg yn cael eu defnyddio mor aml ag enwau Saesneg yma, ac mae nifer o enwau yn berthnasol i fwy nag un lle, fel Cei Newydd, Cei Bach a Llanon.”

Galw am ddatganoli

“Dyma benderfyniad sy’n cael ei gyrru gan gost, heb unrhyw ystyriaeth ofalus o ddiogelwch yng Ngorllewin Cymru,” meddai’r Aelod Cynulliad.

“Mae hi hefyd yn annerbyniol nad oedd Llywodraeth y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ystyried cynnwys Llywodraeth Cymru ar restr o sefydliadau ac unigolion i ymgynghori â nhw ynglyn â’r cynlluniau hyn.”

Dywedodd Plaid Cymru heddiw y byddai’r blaid yn ceisio cyngor ar ddatganoli gwasanaethau gwylwyr y glannau i Lywodraeth y Cynulliad yn sgîl cynlluniau San Steffan i gau gorsafoedd ar draws Cymru.