Mae’n well gan bobol ddarllen e-lyfrau na llyfrau printiedig pan maen nhw’n mynd ar eu gwyliau, yn ôl arolwg newydd.

Yn ôl y pôl piniwn gan asiantaeth reithio Sunshine mae’n well gan bobol fynd â dyfeisiau darllen fel y Kindle ar wyliau â nhw.

Mae e-lyfrau Cymraeg bellach ar gael ar wefan Amazon.

Holwyd 1,928 o oedolion o’r Deyrnas Unedig oedd wedi bod ar wyliau o fewn y 12 mis diwethaf.

Roedd 51% o’r rheini wedi defnyddio e-ddarllenydd, a dim ond 49% wedi mynd â llyfr printiedig gyda nhw.

Roedd e-lyfrau fwyaf poblogaidd ymysg darllenwyr dros 40 oed. Dim ond 11% o’r rheini oedd rhwng 18 a 25 oed oedd yn eu defnyddio nhw.

Y prif reswm a gynigwyd am ddefnyddio darllenydd e-lyfrau oedd ei fod yn haws ei ddal (44%) ac yn haws ei ddarllen yn yr haul (29%).

Serch hynny roedd darllenwyr llyfrau printiedig yn teimlo bod dyfeisiau e-lyfrau yn rhy gostus (24%).

Roedd 46% o’r rheini aeth a llyfrau printiedig â nhw yn dweud ei fod yn well ganddyn nhw lyfrau na e-lyfrau.