Mae ymweliad trychinebus Mitt Romney â’r Deyrnas Unedig wedi cythruddo rhai o Weriniaethwyr ei blaid ei hun.
Cafodd ymgeisydd y blaid yn yr Etholiad Arlywyddol ym mis Tachwedd ei feirniadu’n hallt am ddatgan nad oedd yn siŵr a oedd Llundain yn barod i gynnal y Gemau Olympaidd.
Dywedodd un o strategwyr pennaf ei blaid, Karl Rove, ei fod wedi “ysgwyd ei ben” wrth glywed geiriau Mitt Romney.
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cymryd mantais lawn o anffawd ei gydymgeisydd drwy ganmol paratoadau Gemau Olympaidd Llundain i’r cymylau.
Mae hefyd wedi anfon rhagor o arian at Israel – ychydig ddiwrnodiau yn unig cyn i Mitt Romney ymweld â’r wlad.
Roedd Mitt Romney wedi ceisio datrys yr anghydfod rhyngddo ef a Llywodraeth San Steffan ddoe gan honni ei fod yn “ddyn o Brydain”.
Dywedodd fod ei wraig yn Gymraes, a bod ei gyndadau ef hefyd yn dod o’r ynys.
“Rydw i’n sicr erbyn hyn bod Llundain yn barod,” meddai ar NBC.
“Mae’r bobol yma yn barod ac unwaith y mae’r cyffro yn dechrau bydd yr holl bethau y mae’r gwleidyddion yn ei ddweud yn cael eu sgubo o’r neilltu.”