Y Seremoni Agoriadol
Mae sianel deledu yn yr Unol Daleithiau wedi ei feirniadu ar ôl penderfynu peidio dangos teyrnged i’r rhai fu farw yn ymosodiadau terfysgol 7/7 Llundain.

NBC yw darllenydd Olympaidd swyddogol yr Unol Daleithiau.

Yn ystod y seremoni agoriadol neithiwr dangoswyd wynebau’r rheini fu farw yn yr ymosodiadau yn 2005.

Yna cannodd y gantores Emeli Sande y gân Abide With Me wrth i ddawnswyr berfformio yng nghanol y stadiwm.

Digwyddodd yr ymosodiadau ddiwrnod yn unig ar ôl y cyhoeddiad mai Llundain fyddai yn cynnal y Gemau yn 2012.

Ond cafodd y darn ei dorri allan o ddarllediad yr NBC yn gyfan gwbl, er mwyn gwneud lle ar gyfer cyfweliad â’r nofiwr Michael Phelps.

Cafodd NBC, sydd wedi talu dros $1 biliwn i gael darlledu’r Gemau, hefyd eu beirniadu am beidio â dangos y seremoni agoriadol yn fyw.

Roedd nifer o wylwyr wedi cael gwybod beth oedd yn digwydd drwy Twitter cyn i’r seremoni gael ei darlledu.