Yr Arlywydd Assad
Mae gweinidogion tramor y Gynghrair Arabaidd wedi cynnig “allanfa diogel” i arlywydd Syria, Bashar Assad, a’i deulu os bydd yn camu i lawr.
Rhoddodd Nabil Elaraby ddim mwy o fanylion ar y cynnig yn ystod cyfarfod yn Doha, Qatar, yn gynharach heddiw.
Dywedodd y Gynghrair y byddent yn rhoi £64 miliwn i ffoaduriaid y gwledydd cyfagos.
Cynigiodd arlywydd Tunisia, Moncef Marzouki, noddfa i Bashar Assad ym mis Chwefror os byddai’n rhoi diwedd i’r gwrthdaro yno.
Dyw Bashar Assad heb ddangos unrhyw arwydd o roi’r gorau i’w swydd.
Dydd Sul, ymosododd ei luoedd arfog ar weddill y gwrthryfelwyr yn y brifddinas, Damascus.
Mae Damascus wedi bod dan reolaeth gadarn lluoedd Bashar Assad, er bod sgarmesoedd wedi digwydd yno yn ystod y misoedd diwethaf.