Mae cyrff chwaraeon yn Siapan ac Awstralia dan bwysau, wrth iddyn nhw dderbyn cwynion am bod eu hathletwyr gwrywaidd yn hedfan yn seddi’r dosbarth cyntaf tra bod yr athletwyr benywaidd yn eistedd yn y seddi rhad.

Dywedodd Cymdeithas Pêl-droed Siapan bod y dynion wedi hedfan yn y seddi dosbarth cyntaf oherwydd eu bod yn chwaraewyr proffesiynol.

Ond yn ôl un ddynes sy’n chwarae pêl-droed I Siapan, doedd hyn ddim yn iawn.

‘‘Hyd yn oed yn unig o ran oedran, rydym yn hŷn, ni mewn gwirionedd ddylai fod yn eistedd yn y seddau dosbarth cyntaf,’’ meddai Homare Sawa, ag ennillodd tlws FIFA chwaraewraig y flwyddyn 2011, wrth y cyfryngau yn Siapan ar ôl glanio yn Ffrainc.

Mae tîm Pêl-fasged Awstralia wedi dweud y byddan nhw’n adolygu’r polisi teithio ar gyfer y tîmau cenedlaethol  ar ôl cwynion tebyg i rai Siapan.

Tîm merched Awstralia o bell ffordd yw’r mwyaf llwyddiannus wedi iddynt ennill medalau arian yn y tair gemau Olympadd diwethaf, lle nad yw’r dynion heb ennill dim.

Ond nid oedd pob aelod benywaidd wedi eistedd yn y seddau rhad. Yr oedd seren WNBA Seattle, Lauren Jackson wedi hedfan yn seddi’r dosbarth cyntaf am ei bod yn llysgennad gyda’r cwmni hedfan.  A chwaraewr WNBA arall a wnaeth hedfan yn y dosbarth cyntaf oedd Liz Campage, a wnaeth dalu i uwchraddio ei hun I’r seddi gorau.

Anghydraddoldeb rhywiol

‘‘Mae’r polisi sy’n ymwneud â chyllidebau ar gyfer pob tîm cenedlaethol yn rhoi arweinyddiaeth grŵp i’r tîmau hynny, peth disgresiwn ynghylch sut mae eu cronfeydd yn cael ei wario-ac mae hynny’n cynnwys trefniadau teithio.  Ond y ffaith syml yw pan fydd canlyniadau polisi yn arwain at anghydraddoldeb rhyw , dyw’r polisi ddim yn gywir o gwbl,’’ meddai Scott Derwin, Prif Weithredwr Pêl fasged Awstralia mewn datganiad.