Michael Laudrup
Mae disgwyli’r Elyrch gadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo’r chwaraewr canol cae Michu.
Mae’n debyg y byddan nhw’n talu £2miliwn am y Sbaenwr oedd yn un o brif sgorwyr La Liga y tymor diwethaf, gyda 15 gôl i Rayo Vallecano.
Dyma’r trydydd tramorwr i’r rheolwr newydd Michael Laudrup ei gyflwyno garfan yr Elyrch.
Roedd Rayo ym amharod i werthu Michu, ond yn cael eu gorfodi oherwydd eu dyledion mawr.
Mae Manchester United, Lerpwl a Southampton wedi cael eu cysylltu gyda Michu, ond credir mae Abertawe sydd wedi cyflwyno’r cynnig cadarn ar gyfer y chwaraewr 26 oed.
Mae disgwyl iddo hedfan yn ôl i Sbaen unwaith y bydd y cytundeb wedi ei arwyddo, er mwyn cynnal cynhadledd i’r wasg i ddiolch i’r cefnogwyr yn Rayo i ddiolch am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod yn y clwb.
Nid oes disgwyl Michu i chwarae yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Port Talbot yfory, ond bydd yn ymuno â’r garfan ar gyfer y daith i America.