Mae nifer y rhai sydd wedi eu lladd ar ôl i adeilad ddymchwel yn ninas Alexandria yn yr Aifft wedi codi i 19.

Daw’r ffigurau diweddaraf gan lywodraeth y wlad wrth i dimau achub barhau i chwilio am bobl o dan y rwbel.

Roedd adeilad 11 llawr yn ardal al-Gomrouk  wedi dymchwel gan daro yn erbyn tri adeilad arall nos Sadwrn.

Roedd y  rhai fu farw a naw o’r bobl gafodd eu hanafu yn byw yn y tri adeilad llai gafodd eu difrodi.

Nid yw digwyddiadau o’r fath yn anghyffredin mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn yr Aifft oherwydd yr adeiladwaith gwael.