Mae dwsinau o filwyr Syria wedi ffoi i Dwrci gyda’u teuluoedd ar ôl i’r tensiynau rhwng y ddwy wlad gynyddu ar ôl i jet ryfel Twrci gael ei saethu i’r llawr.
Yn ôl yr asiantaeth newyddion Anadolu roedd 33 o filwyr wedi croesi’r ffin i Dwrci ac roedd y grŵp – 224 o bobol i gyd – yn cynnwys cadfridog a dau gyrnol.
Daw’r datblygiad diweddaraf ar ôl i Syria saethu’r jet ryfel o Dwrci i’r llawr gan ddweud ei bod yng ngofod awyr Syria.
Dywed Twrci, sy’n aelod o Nato, bod yr awyren wedi mynd i ofod awyr Syria yn anfwriadol a bod yr awyren o fewn gofod awyr rhyngwladol pan gafodd ei saethu i lawr. Mae Twrci yn mynnu bod yr awyren ar ymarfer ac nad oedd yn ysbio ar Syria.
Mae Twrci wedi galw am gyfarfod gyda Nato i drafod y digwyddiad.
Yn y cyfamser, mae’r milwyr a’u teuluoedd sydd wedi gadael Syria yn cael lloches mewn gwersyll i ffoaduriaid yn Hatay.
Mae Twrci ar hyn o bryd yn rhoi lloches i 33,000 o bobl o Syria sydd wedi croesi’r ffin i Dwrci i ddianc rhag y trais yn y wlad.