David Cameron
Mae David Cameron wedi bod yn amlinellu ei gynlluniau i ddiwygio’r wladwriaeth les.
Yn ystod ei araith yng Nghaint heddiw dywedodd y Prif Weinidog bod angen dod â diwedd i’r system lle mae rhywun sy’n ddibynol ar fudd-daliadau am gyfnod hir yn ennill mwy o arian na’r rhai sy’n gweithio.
Ymhlith y cynlluniau eraill mae cael gwared â’r budd-dal tai i bobl ifainc dan 25 oed, cael gwared â’r hawl i’r rhai sy’n ennill cyflogau uchel i gadw eu tŷ cyngor, a chyfyngu ar y budd-daliadau ychwanegol i deuluoedd gyda thri neu fwy o blant.
Bwriad y Llywodraeth yw torri’r cysylltiad rhwng budd-daliadau a chwyddiant er mwyn arbed rhywfaint o’r £84 biliwn sy’n cael ei dalu ar hyn o bryd.
Ond cafodd cynllun i gyflwyno budd-daliadau rhanbarthol – fel bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae’r cyflogau’n is yn cael llai o fudd-daliadau – ei dynnu o’r araith ar y funud olaf.
Wrth ymateb i’r posibilrwydd o gyflwyno budd-daliadau rhanbarthol, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’n ymddangos bod yna ddryswch ynglŷn â chynllun y Prif Weinidog.
“Ond petai unrhyw ymgais i gyflwyno budd-daliadau rhanbarthol, yna fe fuasem ni yn gwrthod ymgais o’r fath. Fe fydd Cymru yn cael ei tharo’n waeth na rhannau eraill o’r DU gan ddiwygiadau i’r wladwriaeth les sydd eisoes wedi cael eu hargymell gan Lywodraeth San Steffan. Fe fydd unrhyw ymgais i gyflwyno budd-daliadau rhanbarthol yn gwaethygu’r sefyllfa.”