Mae Canghellor y Trysorlys, George Osborne, wedi datgelu bwriad y llywodraeth i bennu gwerth rhai o nodweddion mwyaf naturiol y Deyrnas Unedig, gyda’r Wyddfa ymhlith y llefydd sydd dan sylw.
Datgelodd Ysgrifenydd yr Amgylchedd, Caroline Spelman, y cynllun yng nghynhadledd Rio+20 ym Mrasil.
Bydd llefydd megis yr Wyddfa ac arfordir Sir Benfro yn cael eu gwerthuso fel rhan o’r cynllun penodedig, gyda phrisiau yn cael eu rhoi ar nodweddion anghyffwrddadwy megis prydferthwch ac effaith ysbrydol.
Dywedodd Caroline Spelman ei bod hi’n bwysig bod y llywodraeth yn ymwybodol o’r hyn sy’n werth ei amddiffyn.
Dywedodd Eirian Williams o Ganolfan Twristiaeth Beddgelert fod llefydd megis Yr Wyddfa yn ddigon o ryfeddod fel y mae a bod ddim angen ei brisio.
Mae’r cynllun hefyd wedi denu amheuaeth gan amgylcheddwyr sy’n feirniadol o ddefnydd y taenlennu, neu’r ‘spreadsheets’, i ddatrys problemau amgylcheddol y byd.