Mae twrnament tenis enwocaf y byd, Wimbledon, wedi dechrau yn Llundain.
Y bore ma fe gyhoeddwyd y bydd awyrennau yn cael eu gwahardd rhag hedfan uwchben Wimbledon yn ystod y twrnament.
Sŵn, ac nid ofnau ynghylch diogelwch, yw’r rheswm dros y gwaharddiad, yn ôl yr awdurdodau.
Cyflwynwyd y fath fesurau y tro diwethaf yn y blynyddoedd yn dilyn ymosodiadau terfysgol 2001.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Metropolitan: “Roedd hynny’n ymateb i’r lefelau bygythiad fel ag yr oedden nhw ar y pryd, ond yn y blynyddoedd diwethaf, nid ydym wedi gweld galw amdanyn nhw.”
Gobeithion Murray
Mae’r detholyn uchaf ymhlith y dynion, Novak Djokovic eisoes wedi dechrau ei ornest yn erbyn Juan Carlos Ferrero ar y cwrt canol, lle bydd Maria Sharapova yn herio Anastasia Rodionova yn ddiweddarach heddiw.
Yng nghystadleuaeth y dynion, mae gobeithion Prydain am lwyddiant yn nwylo’r Albanwr Andy Murray, fydd yn herio Nikolay Davydenko yn y rownd gyntaf ddydd Mawrth. Cyrhaeddodd Murray y rownd gyn-derfynol y llynedd.
O ran gornestau’r gorffennol rhwng y ddau chwaraewr, Murray sydd ar y blaen o 5-4.
Bydd Laura Robson yn herio’r Eidales Francesca Schiavone, enillydd Pencampwriaeth Agored Ffrainc yn 2010, tra bydd Elena Baltacha, yn ei 11eg twrnament yn Wimbledon, yn wynebu Karni Kapp, hefyd o’r Eidal.