Joleon Lescott
Mae amddiffynnwr Lloegr Joleon Lescott yn honni bod y tîm yn symud i’r cyfeiriad cywir, er iddyn nhw golli yn erbyn yr Eidal yn Kiev neithiwr.
Fe gawson nhw eu trechu ar giciau o’r smotyn gan yr Eidal yn dilyn gêm gyfartal 0-0 ym Mhencampwriaeth Ewrop 2012.
Dywedodd Lescott ar ôl y gêm: “Cafwyd tipyn o sôn cyn y twrnament am ba mor bell allen ni fynd ac ym mhob perfformiad ry’n ni wedi dangos balchder ac angerdd. Dyna oedd cefnogwyr Lloegr am ei weld.”
Roedd Lescott wedi siomi ar ôl i’w dîm golli unwaith eto o’r smotyn.
“Roedden ni’n disgwyl cyrraedd y rownd go-gynderfynol o leiaf, ac ry’n ni wedi gwneud cynnydd ers y twrnament diwethaf.
“Ry’n ni’n siomedig ein bod ni’n mynd adref… ond gallwn ni edrych yn ôl a theimlo ein bod ni wedi gwneud y genedl yn falch ohonom.”
Bydd yr Eidal yn wynebu’r Almaen yn y rownd gyn-derfynol nos Iau am gyfle i fynd ben-ben â Sbaen neu Bortiwgal yn y rownd derfynol.
Y wasg yn yr Eidal yn beirniadu Lloegr
Mae’r wasg Eidalaidd wedi beirniadu tactegau negyddol Lloegr.
Fe ddywedodd Gazetta fod y Saeson wedi ‘pylu’ yn ystod yr ornest neithiwr, gan gymharu eu perfformiad â pherfformiad Chelsea yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr rhai wythnosau yn ôl.
“Ni allai rheolau pêl-droed ganiatâu buddugoliaeth arall i’r ‘catenaccio’ (dull amddiffynnol) gan y Saeson ar ôl i Chelsea ennill Cynghrair y Pencampwyr. ”
Roedd y papur yn hael eu canmoliaeth i’r Eidal, a’r pennawd yn dweud “Yr Eidal sy’n ennill ac ymlaen â ni!”.
Roedd yna lun ar dudalen flaen Corriere dello Sport yn Rhufain, gyda’r pennawd yn cyfeirio at fuddugoliaeth “anferth”.
Cafodd Pirlo’r clod ganddyn nhw hefyd yn sgil ei gic o’r smotyn.
Fe ddywedon nhw: “Mae cic gofiadwy o’r smotyn gan Pirlo yn rhoi hyder i’r Azzurri.”
Tra bydd yr Eidal yn paratoi ar gyfer eu gêm yn erbyn yr Almaen, bydd yn rhaid i dîm Roy Hodgson aros tan Awst 15 am eu gêm nesaf, pan fydd y ddau dîm yn cwrdd unwaith eto yn ninas Berne yn Y Swistir.