Jamie Roberts
Mae canolwr Cymru a’r Gleision, Jamie Roberts, yn ffyddiog y bydd yn holliach ar gyfer gemau prawf yr hydref.

Methodd y canolwr y daith i Awstralia oherwydd anaf i’w ben-glin.

Dywedodd ei bod hi wedi bod yn anodd gwylio Cymru’n colli o drwch blewyn yn erbyn y Wallabies.

“Rwy’n meddwl eu bod nhw’n haeddu cael buddugoliaeth,” meddai’r canolwr sydd hefyd yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. “Dyna oedd yn gwneud hi’n fwy anodd i wylio.”

Mae’n gobeithio dychwelyd yn ôl i chwarae i’w ranbarth ym mis Medi neu Hydref, ac yna gwneud y garfan ar gyfer y gêm brawf gyntaf yn erbyn Yr Ariannin ar 10 Tachwedd.

“Rwy wedi bod yn gweithio’n galed i gael y ffitrwydd yn ôl, felly croesi bysedd y bydda’i nôl mewn pryd ar gyfer yr hydref,” meddai Jamie Roberts.

Bydd Cymru’n herio’r Ariannin, Samoa a phencampwyr y byd Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Tachwedd, cyn gorffen yn erbyn Awstralia ar 1 Rhagfyr.