Gareth Bale
Mae Gareth Bale wedi rhoi’r arwydd mwyaf eto ei fod am barhau fel chwaraewr Spurs tymor nesaf.

Dywedodd Gareth Bale, 22, ei fod yn edrych ymlaen at chwarae yn erbyn Newcastle yng ngem gyntaf y tymor nesaf.

“Bydd hi’n gêm anodd, yn enwedig gan ei bod hi oddi cartref,” meddai enillydd Chwaraewr y Flwyddyn yn 2011.

Roedd disgwyl i nifer o sêr Tottenham Hotspur, gan gynnwys y Cymro, adael y clwb yn dilyn ymadawiad y rheolwr Harry Redknapp ddechrau’r mis.

Roedd son bod pencampwyr Ewrop, Barcelona, yn awyddus i ddod ag o i’r Nou Camp.

Dydi’r clwb heb benodi neb i gymryd lle Harry Redknapp hyd yn hyn.

Mae Bale wedi chwarae dros Gymru 33 o weithiau gan sgorio chwech gol. Mae disgwyl iddo gynrychioli Team GB yn y Gemau Olympaidd dros yr haf.