Mohammed Mursi
Mohammed Mursi  yw arlywydd newydd yr Aifft.

Mae’n aelod o’r blaid Islamaidd, y Muslim Brotherhood.

Cyhoeddwyd prynhawn ʼma ei fod wedi ennill 51.73% o’r bleidlais yn yr etholiad, gan guro Ahmed Shafiq, oedd yn Brif Weinidog yn llywodraeth y cyn arlywydd, Hosni Mubarak.

Roedd miloedd o bobl wedi ymgynnull yn Sgwâr Tahrir yng Nghairo i ddisgwyl am y cyhoeddiad, y mwyafrif ohonyn nhw’n cefnogi’r Muslim Brotherhood.

Roedd y cyhoeddiad ynglŷn â phwy oedd wedi ennill yr etholiad wedi cael ei ohirio am dri diwrnod ac roedd  ’na nifer o bobl yn yr Aifft yn pryderu bod y cadfridogion sydd bellach yn rheoli’r llywodraeth yn cynllwynio y tu ôl i’r llenni er mwy sicrhau mwy o bŵer iddyn nhw eu hunain. Y cadfridogion sydd hefyd bellach yn rheoli polisi diogelwch cenedlaethol y wlad.

Ond pan glywodd y dorf yn Sgwâr Tahrir fod Mohammed Mursi wedi ennill, fe ddechreuon nhw ddathlu gyda baneri’r Muslim Brotherhood yn cael eu chwifio’n frwdfrydig.