Arlywydd Assad
Mae Arlywydd Bashar Assad o Syria wedi ffurfio llywodraeth newydd, meddai asiantaeth newyddion y wlad prynhawn ʼma.
Mae wedi penodi Riad Farid Hijab fel Prif Weinidog. Mae’n aelod o blaid yr Arlywydd – plaid y Baath – ac mae’n deyrngar i Assad.
Does dim newidiadau o ran y swyddi pwysig eraill oddi fewn y llywodraeth.
Fe roedd Assad wedi addo y byddai’n cynnwys gwleidyddion o bleidiau eraill yn ei lywodraeth ond dyw hynny ddim wedi digwydd, mae’n ymddangos.