Milwyr PKK
Mae gwrthryfelwyr Cwrdaidd wedi ymosod ar safleoedd milwrol Twrci yn ne-ddwyrain y wlad heddiw, gan arwain at wrthdaro lle cafodd 10 o wrthryfelwyr ac wyth o filwyr eu lladd, yn ôl yr awdurdodau.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Daglica yn nhalaith Hakkari, sydd ar y ffin ag ardaloedd Cwrdaidd gogledd Irac.

Cafodd 16 o filwyr Twrci eu hanafu yn yr ymosodiad.

Mae gwrthryfelwyr yn defnyddio gogledd Irac fel safle i lansio ymosodiadau ar filwyr Twrci. Mae’r grŵp y Kurdistan Workers’ Party, neu PKK, yn ceisio cael annibyniaeth yn ne-ddwyrain Twrci. Mae degau o filoedd wedi eu lladd ers iddyn nhw’n ddechrau’r ymgyrch yn 1984.

Daw’r ymosodiad heddiw wrth i’r llywodraeth geisio rhoi mwy o hawliau diwylliannol i’r lleiafrif Cwrdaidd. Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog  Recep Tayyip Erdogan yn ddiweddar bod cynlluniau i gyflwyno gwersi Cwrdeg dewisol mewn ysgolion, ar ôl caniatáu darllediadau yn yr iaith ar y teledu.

Ond mae Twrci wedi gwrthod galwadau gan wrthryfelwyr a gwleidyddion Cwrdaidd am addysg lawn yn yr iaith, am eu bod yn ofni y byddai’n achosi rhwyg yn y wlad. Amcangyfrifir bod 20% o 75 miliwn o boblogaeth Twrci yn Gwrdiaid.