Mae heddlu Llundain yn parhau i ymchwilio i farwolaeth y cricedwr ifanc o Gymru, Tom Maynard, fu farw ddoe.
Cafodd y chwaraewr 23 oed, oedd yn fab i gyn-cricedwr a hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard, ei daro gan un o drenau tanddaearol Llundain yn gynnar bore ddoe.
Yn ol rhai adroddiadau, roedd Tom Maynard yn ceisio osgoi’r heddlu pan gafodd ei ladd yng ngorsaf drenau Wimbledon Park.
Roedd yr heddlu wedi ceisio stopio car Mercedes du, oedd yn cael ei yrru’n “eratig”, awr cyn i gorff Tom Maynard gael ei ddarganfod ar y cledrau.
Dywed yr heddlu bod Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi cael eu hysbysu am y digwyddiad.
Teyrngedau
Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i Tom Maynard fu’n chwarae i Forgannwg ar bob lefel cyn cynrychioli tim cynta’r sir yn 2007. Gadawodd yn 2011 i chwarae gyda sir Surrey ac roedd yn fowliwr i’r sir yn ogystal â batiwr.
Dywedodd Cadeirydd clwb criced Surrey, Richard Thompson, fod Tom Maynard yn “fatiwr ifanc tu hwnt o dalentog” a bod colled mawr ar ei ôl.
Dywedodd Clwb Criced Morgannwg bod aelodau’r clwb yn dal i geisio dod i deledaru â’i farwolaeth gan ychwanegu eu bod wedi “tristau yn ofnadwy o glywed am farwolaeth trasig Tom Maynard. Mae ein meddyliau gyda Matt, Sue a’u teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.”