Bydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn croesawu’r newydd-ddyfodiaid Huddersfield Town i Stadiwm Dinas Caerdydd yng ngêm gyntaf y Bencampwriaeth fis Awst.
Bydd hynny’n golygu ei bod yn chwarae yn eu crysau coch newydd am y tro cyntaf mewn gêm gystadleuol ers gwneud y penderfyniad dadleuol i weddnewid delwedd y clwb.
Ar yr un diwrnod, 18 Awst, mi fydd Dinas Abertawe yn ymweld â thîm Mark Hughes, Queens Park Rangers, ym mhenwythnos agoriadol yr Uwch Gynghrair.
Bydd y pencampwyr presennol, Manchester City, yn dechrau’r ymgyrch newydd gartref i Southampton, tra bod Manchester United yn teithio i Barc Goodison i chwarae yn erbyn Everton yn un o gemau mwyaf atyniadol y penwythnos.