Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn ymuno ag arweinwyr byd ym Mecsico heddiw i bwyso am gytundeb i geisio datrys yr argyfwng economaidd yn Ewrop, ar ôl i “argyfwng” gael ei osgoi neithiwr wrth i Wlad Groeg bleidleisio yn erbyn cynlluniau a fyddai’n ei gweld yn gadael yr ewro.
Nid yw’r blaid geidwadol Democratiaeth Newydd wedi ennill digon o fwyafrif i ffurfio llywodraeth a bydd angen plaid arall i ffurfio clymblaid. Ond mae’r marchnadoedd arian wedi ymateb yn gadarnhaol gan weld y canlyniad fel arwydd clir bod y bobl yn cefnogi gweinyddiaeth newydd sy’n gefnogol i newidiadau a fydd yn arwain at dwf economaidd.
Gyda 97% o’r pleidleisiau wedi eu cyfrif, mae Democratiaeth Newydd yn hawlio buddugoliaeth gyda 29.7% o’r bleidlais, a’r blaid radical oedd yn gwrthwynebu mesurau llymder, Syriza, yn ennill 26.9%, a’r blaid Sosialaidd Pasok yn drydydd gyda 12.3%.
Daw’r ail etholiad chwe wythnos ar ôl i’r un blaid ddod i’r brig ar 6 Fai gan arwain at fethiant trafodaethau i ffurfio clymblaid.
Petai Gwlad Groeg yn gadael yr ewro fe allai’r canlyniadau fod yn drychinebus i wledydd Ewropeaidd eraill sy’n wynebu argyfwng economaidd, yn ogystal â’r Unol Daleithiau a’r economi yn fyd-eang.
Dywed arbenigwyr y bydd y canlyniad yn “lleddfu pryderon” am y tro.
Mae’r pwysau nawr ar y pleidiau i ffurfio Llywodraeth mor fuan â phosib.