Philip Hammond
Bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cyhoeddi cytundeb gwerth £1bn yfory i ddatblygu adweithyddion niwcliar addas ar gyfer llongau tanfor.

Mae’r cytundeb yn rhan o gynlluniau i ddisodli llynges Vanguard, sy’n cario arfau niwcliar Trident.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond, bod y llywodraeth wedi ymrwymo i gynnal arfau niwcliar ond na fydd yna benderfyniad ar olynydd i rhaglen Trident yn digwydd tan 2016.

Mae’r Ceidwadwyr eisiau gweld rhaglen arfau niwcliar arall yn lle Trident erbyn 2028 ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i ganfod dulliau eraill rhatach.

Fydd y penderfyniad terfynol ddim yn cael ei wneud tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf ond bydd bilynnau o bunnau wedi cael eu gwario ar ddatblygu’r rhaglen olynol erbyn hynny.

Bydd y cytundeb diweddaraf yn ymwneud ag ailwampio ffatri Rolls-Royce yn Raynesway yn Derby a datblgyu’r adweithyddion yno gan greu 300 o swyddi newydd.

Cafodd gwerth £350m o bunnau o gytundebau ar gyfer y rhaglen llongau tanfor newydd eu rhoi i gwmnai BAE Systems, Babcock a Rolls Royce y mis diwethaf.