Gall ymrwymiad Llafur i sicrhau cyflog byw teg i bob gweithwyr yng Nghymru gael effaith andwyol ar y sector breifat yn ôl rhybudd arweinwyr busnes i Lywodraeth Cymru.
Roedd Llafur wedi addo canfod ffyrdd o dalu cyflog byw teg i bob gweithiwr yng Nghymru yn ei maniffesto. Mae lefel y cyflog yma wedi cael ei amcangyfrif yn £7.20 yr awr gan academyddion ym Mhrifysgol Loughborough ond £6.08 yr awr yw’r isafswm cyflog cyfriethiol i rai dros 21 oed ar hyn o bryd.
Mae’ r llywodraeth yn ymchwilio i ffyrdd o annog cyflogwyr yn y sector gyhoeddus i dalu cyflog byw teg. Mae gweithwyr NHS Cymru a gweision sifil Llywodraeth Cymru eisoes yn ennill y cyflog yma o leiaf ac mae cyflogwyr o’r sector preifat fel Banc Barclays a chyfrifwyr KPMG eisoes wedi ymrwymo i dalu’r cyflog.
Mae llefarydd ar ran Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Robert Lloyd Griffiths wedi dweud ei fod yn pryderu y gall y cyflog byw teg ddisodli’r isafswm cyflog.
Petai hyn yn digwydd fe fydd cwmniau yn ei chael hi’n anodd i gyflogi rhagor meddai ac o bosib fe fydd yn rhaid diswyddo gweithwyr.
Mewn cyfweliad efo BBC Wales, dywedodd nad oedd cynnig y cyflog yma yn realistisg.
“Mi fuasai cwmniau wrth eu boddau yn cyflogi rhagor o staff, “meddai “ond mae’n anodd iawn ar hyn o bryd ac mae unrhyw beth sy’n mynd i’w hatal nhw rhag gwneud hynny yn mynd i achosi problemau.”
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant yn bwriadu sefydlu grŵp polisi yn ystod yr haf i ystyried manteision cynnig y cyflog yma.
Fe wnaeth ymgyrchwyr ifanc sy’n gweithio efo elusen Achub y Plant gyflwyno deiseb i’r Llywodraeth yn ddiweddar yn galw am gyflog byw.
Dywedodd pennaeth Achub y Plant yng Nghymru, James Pritchard y buasai talu cyflog byw “yn ffordd uniongyrchol o ymateb i dlodi plant.”