Gabrielle Giffords
Mae dyn a oroesodd ymosodiad â dryll yn Arizona wedi ennill etholiad i gynrychioli sedd y cyn-aelod o Gyngres America, Gabrielle Giffords.

Cafodd Gabrielle Giffords ei saethu yn ei phen yn ystod digwyddiad gwleidyddol yn Tucson y llynedd. Fe gafodd chwech o bobol eu lladd yn y digwyddiad, a 13 eu hanafu.

Penderfynodd Gabrielle Giffords ymddiswyddo o’i sedd oherwydd ei hanafiadau, ac mae un o’r dioddefwyr eraill, ei chynorthwyydd Ron Barber, wedi ennill yr etholiad i’w holynu.

“Mae bywyd yn llawn troeon annisgwyl, a dyma ni, diolch i chi,” meddai wrth ei gefnogwyr.

Trechodd Ron Barber y Gweriniaethwr Jesse Kelly, a gollodd o drwch blewyn yn erbyn Gabrielle Giffords yn 2010.

Anaml iawn y mae Gabrielle Giffords ddim wedi ymddangos yn gyhoeddus ers ymddiswyddo ym mis Ionawr, ond dychwelodd i Tuscon yn ystod dyddiau olaf yr ymgyrch er mwyn hybu ymgyrch y Democratiaid.

Fe ennillodd Ron Barber 52% o’r bleidlais, a Jesse Kelly 46%.

Dywedodd y blaid Ddemocrataidd bod y fuddugoliaeth yn gam cyntaf tuag at ail-ennill Tŷ’r Cynrychiolwyr ym mis Tachwedd.