Mae Llywodraeth Syria wedi cael ei beirniadu’n hallt gan y Cenhedloedd Unedig yn dilyn ymosodiad oedd wedi lladd 100 o bobl, gan gynnwys o leiaf 49 o blant.

Mae’r pwysau rhyngwladol yn cynyddu ar lywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad yn dilyn y gyflafan yn Houla ddydd Gwener, er gwaetha’r ffaith bod y llywodraeth wedi gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae’r gymuned ryngwladol, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Tramor William Hague, wedi wfftio honiadau’r llywodraeth mai gwrthryfelwyr oedd yn gyfrifol.

Yn dilyn cyfarfod brys neithiwr, roedd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi cyhuddo Llywodraeth Syria o dor-cyfraith rhyngwladol.  Dywedodd bod y llywodraeth yn gyfrifol am ymosodiadau bom ar ardaloedd lle’r oedd pobol gyffredin yn byw ac am saethu’n farw nifer o bobl.

Cafodd o leiaf 108 o bobl, gan gynnwys 49 o blant a 34 o ferched, eu lladd yn yr ymosodiad ddydd Gwener, yn ôl goruchwylwyr y Cenhedloedd Unedig.

Mae William Hague wedi galw prif ddiplomydd Syria yn Llundain i’r Swyddfa Dramor heddiw er mwyn clywed condemniad y Llywodraeth.

Dywedodd William Hague bod yr ymosodiad yn un “ffiaidd”. Mae disgwyl iddo gynnal trafodaethau ynglŷn ag ymateb y gymuned ryngwladol gydag Ysgrifennydd Tramor Rwsia ym Moscow.

Mae Rwsia a China ymhlith rhai o’r gwledydd sy’n gwrthwynebu cymryd camau pellach yn erbyn Syria gan y Cenhedloedd Unedig.