Ban Ki-moon
Mae o leiaf 88 o bobl, yn cynnwys nifer o blant, wedi cael eu lladd yn Syria meddai’r rhai sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth yno.

Maen nhw’n dweud fod “cyflafan” wedi digwydd yn nhalaith Homs, wrth i luoedd y llywodraeth ymosod ar dref Houla.

Mae cadoediad i fod mewn grym yn y wlad ers mis Ebrill, ond mae’r lladd yn parhau.

Dywedodd pennaeth y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, fod y sefyllfa yn y wlad yn parhau i fod yn ddifrifol iawn. Galwodd ar wledydd eraill i beidio â chyflenwi arfau i’r naill ochor na’r llall yn y gwrthdaro.

Bu miloedd o bobl yn protestio yn y wlad unwaith eto dydd Gwener, ac fe gafodd o leiaf 20 eu lladd y diwrnod hwnnw.

Mae’r protestwyr wedi galw am ddiwrnod o alaru yn dilyn y gyflafan honedig.