Mae llywodraeth Pacistan wedi atal mynediad at wefan rhwydweithio cymdeithasol Twitter, gan ddweud ei fod yn cynnwys deunydd sy’n ymosodol tuag at Islam.

Dywedodd Muhammad Yaseen, cadeirydd awdurdod telathrebu’r wlad, bod y wefan wedi ei hatal am nad oedd Twitter yn fodlon cael gwared ar luniau o’r Proffwyd Muhammad.

Mae rhai Mwslimiaid yn ystyried unrhyw ddelweddau o’r proffwyd yn gableddus.

Dywedodd Muhammad Yaseen bod Facebook wedi addo ystyried eu pryderon, ond bod Twitter wedi eu wfftio.

Ataliodd Pacistan fynediad at Facebook am bythefnos yn 2010 oherwydd cystadleuaeth i dynnu llun o’r Proffwyd Muhammad.