Am bedair blynedd, mae Iran wedi gwrthod trafod ei rhaglen niwclear
Fe fydd pennaeth asiantaeth niwclear y Cenhedloedd Unedig yn hedfan i brifddinas Iran dros y Sul ac yn arwyddo dêl a fydd yn galluogi’r gwaith o archwilio rhaglen niwclear y wlad i fynd yn ei flaen.

Fe fydd Yukiya Amano yn trafod gyda swyddogion Iran faterion sydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr, yn ystod yr ymweliad undydd. Fe fydd hefyd yn cyfarfod prif drafodwr niwclear Iran, Saeed Jalili.

Ond mae diplomyddion ar y ddwy ochr wedi rhybuddio mai cam cynta’ yn unig ydi arwyddo’r cytundeb – dyna fyddai’r arwydd cliriaf fod Iran yn fodlon ac yn awyddus i gyfarfod hanner ffordd. A byddai hynny’n dod â phedair blynedd o wrthod cydweithio, i ben.

Mae Iran yn mynnu mai rhaglen heddychlon ydi ei rhaglen niwclear, ond mae’r Unol Daleithiau ac eraill yn amau ei didwylledd.

Mae cyfarfod wedi ei drefnu rhwng swyddogion o Iran a chynrychiolwyr o’r Unol Daleithiau a phump o wledydd eraill yn Baghdad ddydd Mercher nesa’.