Banc Gwlad Groeg
Mae barnwr wedi cael ei benodi i fod yn arweinydd llywodraeth dros dro Gwlad Groeg am fis nes bod y wlad yn cynnal etholiad newydd.

Fe fydd Panagiotis Pikramenos, 67, yn arwain y llywodraeth dros dro ac mae disgwyl i’r etholiad gael ei gynnal ar 17 Mehefin.

Yn  y cyfamser mae’r ansefydlogrwydd gwleidyddol wedi peri pryder i fenthycwyr Gwlad Groeg yn ogystal â’r Groegwyr sydd wedi tynnu cannoedd o filiynau o ewros o’r banciau ers yr etholiad ar 6 Mai.

Dywedodd yr Arlywydd Karolos Papoulias bod 700 miliwn ewro wedi gadael banciau Gwlad Groeg ers yr etholiad gan ychwanegu bod “sefyllfa’r banciau yn anodd iawn”.

Mae’n debyg bod pobl wedi bod yn anfon eu harian dramor neu ei gadw yn eu cartrefi ers i sefyllfa ariannol y wlad waethygu.