Senedd Gwlad Groeg
Sbaen ydi’r wlad ddiweddara’ i ddod yn rhan o’r ffrae ynglyn ag economi Groeg, wrth iddi ymbil ar arweinwyr yno i ddod i gytundeb ynglyn â phwy fydd yn rheoli’r wlad yn dilyn etholiad yr wythnos diwetha’. Mae cost benthyg yno wedi codi, ac mae prisiau cyfranddaliadau wedi cwympo yn syfrdanol.
“Y peth gorau y gall Groeg ei wneud, er mwyn ei dyfodol ei hun ac er mwyn dyfodol yr undeb economaidd ac ariannol yn Ewrop gyfan, ydi ffurfio llywodraeth cyn gynted ag y medren nhw,” meddai Jose Manuel Garcia-Margallo, gweinidog tramor Sbaen.
Mae ansicrwydd ynglyn ag effaith yr hyn sy’n digwydd yng Ngroeg ar y cyfandir yn ehangach, wedi achosi cwymp yn y marchnadoedd dros yr wythnos diwetha’. Mae Sbaen wedi cael ei siglo yn arw, ac mae’n debyg mai hi fydd y nesa’ fydd angen cymorth ariannol gan Ewrop.
Mae sefyllfa bresennol Gwlad Groeg yn achosi “pryder anferth” iddo, meddai Jose Manuel Garcia-Margallo, ond mae’n gwrthod datgan p’un ai ydi Sbaen yn cefnogi’r syniad y dylai Groeg adael parth yr ewro.
Mae trafferthion ariannol Sbaen hefyd yn diodde’ oherwydd nerfusrwydd y farchnad ynglyn â sector bancio’r wlad. Mae llywodraeth Sbaen wedi addo, yr wythnos ddiwetha’, ei bod hi am ad-drefnu’r sustem.
Roedd y FTSE 100 wedi cau 2%, neu 110 o bwyntiau, yn is, ar 5465.5, ar ol i wlad Groeg fethu a ffurfio clymblaid.