Francois Hollande
Mae François Hollande wedi ennill etholiad arlywyddol Ffrainc, yn ôl yr amcangyfrif cyntaf.

Y gred yw bod yr ymgeisydd Sosialaidd, Francois Hollande, wedi trechu’r ymgeisydd ceidwadol, Nicolas Sarkozy, sydd wedi bod wrth y llyw ers un tymor yn unig.

Yn ôl yr amcangyfrif mae François Hollande wedi ennill 52% o’r bleidlais, ac mae Nicolas Sarkozy wedi ennill 48%.

Roedd 80.5% o’r etholwyr wedi pleidleisio.

Mae’r canlyniadau swyddogol cyntaf o’r blychau pleidleisio hefyd yn awgrymu bod François Hollande yn fuddugol.

Mae Nicolas Sarkozywedi cydnabod ei fod wedi colli ac wedi dymuno’n dda i François Hollande.

François Hollande fydd yr arlywydd sosialaidd cyntaf yn Ffrainc ers 1995.

Mae wedi addo ail-edrych ar gytundeb parth yr ewro er mwyn mynd i’r afael â dyled y gwledydd yno. Mae’n ffafrio rhoi mwy o bwyslais ar hybu ariannol yn hytrach na thoriadau.

Mae wedi addo codi trethi ar gwmnïoedd mawr a phobol sy’n ennill mwy na €1 miliwn bob blwyddyn, yn ogystal â chodi’r isafswm cyflog a gostwng yr oed ymddeol.

Nicolas Sarkozy yw’r ail arlywydd yn unig i fethu a sicrhau ail dymor mewn grym ers dechrau Pumped Gweriniaeth Ffrainc yn 1958.