Mae arolwg o bobol a bleidleisiodd yn etholiad Gwlad Groeg yn awgrymu bod tair plaid yn cystadlu am oruchafiaeth yn y wlad.

Mae’r pôl piniwn yn awgrymu na fydd yr un blaid yn sicrhau digon o bleidleisiau er mwyn ffurfio clymblaid ar eu pennau eu hunain.

Y disgwyl yw y bydd y blaid geidwadol New Democracy yn derbyn rhwng 17% a 20% o’r bleidlais, a’r blaid sosialaidd PASOK yn cael rhwng 14% ac 17%.

Bydd y blaid Clymblaid Adain-chwith Radical, neu Syriza, yn derbyn rhwng 15.5% ac 18.5%.

Mae disgwyl i’r blaid adain-dde eithafol Gwawr Euraidd hefyd ennill digon o bleidleisiau i gael sedd yn y senedd, â rhwng 6% ac 8% o’r bleidlais.

Mae disgwyl y canlyniadau swyddogol yn hwyrach ymlaen heno.