Mae 26 o ddynion o’r Swistir wedi ymuno â’r fyddin hynaf yn y byd, gan gysegru eu bywydau i amddiffyn y Pab.
Bydd y dynion yn ymuno â’r Gwarchodlu Swistirol heddiw, 6 Mai.
Ar y diwrnod hwnnw yn 1527 cafodd 147 o warchodwyr eu lladd wrth amddiffyn y Pab Clement VII pan gafodd Rhufain ei ysbeilio gan filwyr yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Charles V.
Mae’r gwarchodwyr yn gorfod bod yn ddynion sengl, Catholig, o’r Swistir, sydd dan 30 oed.
Maen nhw’n enwog am eu dillad glas ac aur, eu gwayw-fwyeill a’r plu coch yn eu helmedau.