Fe fydd Groegwyr yn pleidleisio dydd Sadwrn, a’r disgwyl yw y byddwn nhw’n rhoi cic go hegar i’r ddwy brif blaid.
Mae disgwyl na fydd plaid sosialaidd PASOK na’r blaid Geidwadol Democratiaeth Newydd yn ennill digon o bleidleisiau i ffurfio llywodraeth.
Mae’r ddwy blaid wedi bod wrth y llyw am 38 mlynedd, a does dim sicrwydd beth fydd y canlyniad ar ôl yr etholiad.
Y tebygrwydd yw y bydd cyfnod o drafod a chlymbleidio yn dilyn, a’r posibilrwydd – a fydd yn codi braw ar fanciau ledled y byd – y bydd yn rhaid cynnal etholiad arall.
Cymaint yw’r dicter tuag at wleidyddion yn y wlad bod nifer wedi gorfod cadw draw rhag ofn iddyn nhw gael eu targedu.
Roedd y polau piniwn diwethaf a gyhoeddwyd bythefnos cyn yr etholiad yn dangos bod cefnogaeth PASOK a New Democracy wedi syrthio’n sylweddol.
Mae disgwyl i PASOK ennill rhwng 14.5% a 19% o’r bleidlais, y canran lleiaf ers mis Tachwedd 1974, pan enillodd y blaid 13.5% ddeufis yn unig ar ôl cael ei sefydlu.
Mae’r prif bleidiau wedi rhybuddio y bydd y wlad yn wynebu tlodi am genedlaethau os yw’r etholwyr yn cefnogi pleidiau fydd yn troi eu cefnau ar Ewrop a’r ewro.