Abdelbaset al-Megrahi, bomiwr Lockerbie
Fe wnaeth y llywodraeth Lafur “bopeth o fewn ei allu” er mwyn helpu Libya i sicrhau bod bomiwr Lockerbie yn cael ei ryddhau, meddai prif was sifil Prydain heddiw.

Dywedodd Syr Gus O’Donnell fod y Llywodraeth Lafur yn awyddus i Lywodraeth yr Alban ryddhau Abdelbaset al-Megrahi.

Roedd David Cmaeron wedi gofyn i’r gwas sifil ymchwilio i’r mater ar ôl clywed pryderon seneddwyr yn yr Unol Daleithiau y llynedd.

Dywedodd Gus O’Donnell nad oedd wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod Llywodraeth San Steffan wedi “rhoi pwysau ar na lobïo” Llywodraeth yr Alban i ryddhau’r bomiwr.

Yn ystod ei unig gyfarfod ag arweinydd Libya, y Cyrnol Gaddafi, ym mis Gorffennaf 2009, dywedodd y Prif Weinidog Gordon Brown na allai ymyrryd yn y mater.

“Serch hynny, polisi’r llywodraeth oedd na fyddai o fudd i’r wlad pe bai Mr Megrahi yn marw yn y carchar,” meddai Gus O’Donnell.

Abdelbaset al-Megrahi yw’r unig un sydd erioed wedi ei gael yn euog o’r bomio yn 1988, laddodd 271 o bobol.