Cafodd chwech o bobl eu lladd a 21 eu hanafu yn ystod tri ymosodiad bom yn Baghdad bore ma.
Dywed yr heddlu bod bom wedi ffrwydro mewn car tua 7.30am yn ardal Shiaidd Kazimiyah, gan ladd tri ac anafu 11.
Fe ffrwydrodd ail fom ychydig funudau’n ddiweddarach wrth ochr y ffordd wrth i weithwyr ddod at ei gilydd yn ardal Shiaidd Amil. Bu farw dau a chafodd wyth o bobl eu hanafu.
Yn ne ddwyrain Zafaraniyah fe ffrwydrodd bom arall gan ladd un ac anafu dau.
Cafodd naw o bobl eraill eu lladd mewn tri ffrwydrad yn ninas Kirkuk. Dywed yr heddlu bod o leiaf 15 wedi eu hanafu yn y ddinas 180 milltir i’r gogledd o Baghdad.