Abu Qatada
Mae na alw ar yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May i wneud datganiad brys i’r Senedd i egluro’r “dryswch” ynglŷn ag ymdrech ddiweddara’r Llywodraeth i estraddodi’r clerigwr eithafol Abu Qatada.
Mae cyfreithwyr ar ran Qatada, sy’n cael ei amau o fod yn derfysgwr, wedi gwneud apel i Lys Iawnderau Ewrop ar ôl iddo gael ei ail-arestio ddydd Mawrth. Mae’r apel yn golygu y bydd na oedi cyn y gall trefniadau i’w anfon nôl i Wlad yr Iorddonen gael eu gwneud.
Ond mae Theresa May yn mynnu bod y cyfnod i wneud apel wedi dod i ben ddydd Llun. Roedd Llys Iawnderau Ewrop wedi dyfarnu dri mis yn ôl y gall Qatada gael ei anfon nôl i Wlad yr Iorddonen am nad oedd perygl y byddai’n cael ei arteithio.