Mae siaradwyr Cymraeg yn cael eu “denu i’r Eglwys ond yn cael eu siomi gan ei Seisnigrwydd” medd adroddiad sy’n cael ei drafod heddiw gan benaethiaid yr Eglwys yng Nghymru.
Mae Corff Llywodraethol yr Eglwys yn cyfarfod yn Llandudno heddiw ac mae adroddiad ar sefyllfa’r Gymraeg ar yr agenda, ynghyd â thrafodaeth ar ordeinio merched yng Nghymru.
Cafodd yr adroddiad ar y Gymraeg ei baratoi gan weithgor dan gadeiryddiaeth y cyn-Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Cynog Dafis. Dywedodd Cynog Dafis ar Radio Cymru heddiw ei fod yn bryderus fod y Gymraeg yn “cael ei gwthio i’r ymylon” o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
‘Delwedd Seisnigaidd’
Mae adroddiad y gweithgor yn nodi “nad yw delwedd Seisnigaidd yr Eglwys yng Nghymru ar hyn o bryd yn debygol o fod yn gymorth i ddenu ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith” a bod siaradwyr Cymraeg “yn cael eu denu i’r Eglwys ond yn cael eu siomi gan ei Seisnigrwydd, yn genedlaethol ac yn lleol.”
Yn ôl arolwg y gweithgor mae 45% o glerigwyr Cymru yn gallu cynnal gwasanaeth yn Gymraeg a 47% heb Gymraeg o gwbl. Dywed yr adroddiad fod tystiolaeth lafar wedi cael ei gyflwyno i’r gweithgor “bod yna bobl o fewn yr Eglwys yng Nghymru sy’n wrthwynebus i gynyddu’r defnydd a wneir o’r iaith Gymraeg ym mywyd yr Eglwys”.
Mynegodd y gweithgor ei bryder fod gan 65% o eglwysi hysbysfyrddau yn Saesneg yn unig ac felly’n torri polisi iaith yr Eglwys.
Penodi Trefnydd Iaith
Dywed yr adroddiad fod angen “strategaeth gynhwysfawr” er mwyn datblygu’r Gymraeg yn yr Eglwys.
Mae’n argymell bod yr Eglwys yn penodi trefnydd iaith lawn-amser ac yn monitro yn flynyddol nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n cael eu galw i’r weinidogaeth.
Ordeinio Merched
Bydd trafodaeth yn cael ei chynnal heddiw yn y Corff Llywodraethol ar bwnc ordeinio merched. Mae Mainc Esgobion yr Eglwys am gyflwyno mesur i ganiatáu ordeinio merched ond yn dweud bod angen trafodaeth cyn hynny ar union gynnwys y mesur. Yn ôl papur ar y pwnc, “Mae Mainc yr Esgobion yn ymwybodol o’r gwahaniaethau barn sylweddol ar y pwnc yma ar draws pobl Dduw, ond yn credu bod yr Ysbryd Glân yn ein harwain at y weithred hon ar y foment.”