Milwyr y PKK, un o fudiadau'r Cwrdiaid (James Gordon CCA2.0)
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi codi amheuon ar ôl i Bwyllgor Dethol argymell croesawu Twrci i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe fyddai’n rhaid i’r wlad wella ei hagwedd at hawliau dynol, ac yn arbennig at y Cwrdiaid sy’n byw yno, meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon.

Roedd yn ymateb i adroddiad gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Tramor yn San Steffan sydd wedi dweud bod angen rhoi lle i Dwrci, sydd, medden nhw, yn meddu ar economi ddeinamig.

Ond, yn ôl Hywel Williams, mae angen iddi fynd i’r afael â hawliau dynol a “gorthrwm” y Cwrdiaid o fewn ei ffiniau.

‘Camgymeriad o safbwynt Cymru’

“O’n safbwynt ni yng Nghymru dwi’n credu byddai derbyn i’r Undeb Ewropeaidd wlad sydd wedi bod mor orthrymol tuag at y Cwrdiaid a’u hiaith yn gam yn ôl” meddai.

“Mi faswn i’n falch o weld Twrci yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ond rhaid i hynny ddigwydd dan yr amodau cywir.

“Mae Twrci rai blynyddoedd i ffwrdd o fodloni’r amodau, yn benodol rhai Copenhagen sy’n diffinio dan ba amodau y mae gwlad yn addas i gael ei derbyn i fod yn aelod o’r Undeb.”

‘Gormes barhaus’

Aeth Hywel Williams i Dwrci y llynedd i fod yn sylwedydd rhyngwladol mewn achos yn erbyn 250 o aelodau o blaid wleidyddol Gwrdaidd.

Mae aelod senedd Ewrop Plaid Cymru, Jill Evans, yno ar hyn o bryd er mwyn cwrdd ag aelodau Cwrdaidd senedd Twrci.  Mae hi wedi datgan ei phryder am sefyllfa’r Cwrdiaid yn Nhwrci.

“Rydym yn cwrdd i drafod yr ormes barhaus yn erbyn pobol Gwrdaidd ac yn galw ar lywodraeth Twrci i gydnabod y Cwrdiaid yn eu cyfansoddiad newydd” meddai Jill Evans.

“Rwy’ hefyd yn gobeithio cwrdd â nifer o’r gwleidyddion a garcharwyd gan lywodraeth Twrci.”

Pwyllgor o blaid

Mewn ymweliad â Thwrci roedd aelodau senedd San Steffan ar bwyllgor dethol San Steffan wedi eu taro gan “fywiogrwydd economaidd ac uchelgais rhyngwladol” y wlad, ond maen nhw hefyd yn rhybuddio bod amheuon ynghylch hawliau dynol yn Nhwrci.

Croesawodd y Swyddfa Dramor gefnogaeth y pwyllgor dethol i aelodaeth Twrci. Meddai llefarydd,

“Rydym yn credu y byddai aelodaeth Twrci o fudd i Brydain a’r Undeb Ewropeaidd, gan gyfrannu at ein ffyniant, ein diogelwch a’n sefydlogrwydd.

Cefndir

Y Cwrdiaid yw’r genedl ddi-wladwriaeth fwya’ yn y byd ac yn nwyrain Twrci y mae’r boblogaeth fwya’, gyda nifer sylweddol hefyd yn Irac.

Ers blynyddoedd mae’r genedl wedi ei gormesu gan lywodraeth Twrci gyda gwaharddiadau cyson ar siarad yr iaith Gwrdiaid.

Un o ddywediadau’r Cwrdiaid eu hunain yw mai’r unig ffrindiau sydd ganddyn nhw yw’r mynyddoedd.