Baner Swdan
Mae George Clooney a’i dad Nick wedi eu haretsio am brotestio y tu allan i lysgenhadaeth Swdan yn Washington.

 Yn ôl y portestwyr mae Arlywydd Swdan wedi atal bwyd a chymorth rhag cyrraedd pobol anghenus ym Mynyddoedd Nuba.

 Cafodd y Clooneys eu harestio ynghyd â’r Democrat etholedig Jim Moran o Virginia a’r arweinydd hawliau sifil Ben Jealous, ar ôl derbyn rhybudd deirgwaith i beidio â chroesi llinell yr heddlu tu allan i’r llysgenhadaeth.

 Fa gawson nhw eu rhoi yng nghefn un o faniau gwasanaethau cudd America.

Yn gynharach roedd Clooney wedi dweud ei fod yn gobeithio tynnu mwy o sylw at y broblem yn Swdan, ac os nad fydd yna newid yn y misoedd nesaf “rydan ni’n mynd i weld trychineb ddynol go-iawn”.