Mae cyfreithiwr y milwr o America sydd wedi ei gyhuddo o ladd 16 o Afghaniaid yn dweud ei fod yn ddyn ‘mwyn’ wnaeth weld ei gyfaill yn colli’i goes mewn ffrwydriad, ddiwrnod cyn iddo wallgofi ac achosi lladdfa honedig.
Yn ôl John Browne roedd ei gleient, sydd heb gael ei enwi, yn amharod i ddychwelyd i Afghanistan ar gyfer ei bedwerydd ymweliad.
Dywedodd y cyfreithiwr bod teulu’r milwr wedi honni ei fod yn sefyll wrth ochr un arall o filwyr America pan gafodd hwnnw’i anafu’n ddifrifol.
Roedd y milwr sy’ wedi’i gyhuddo o ladd 16 o bobol Afghanistan ganol nos ddydd Sul, wedi ei anafu ddwywaith yn ystod ei dri ymweliad blaenorol â’r wlad.
Mae’r milwr 38 oed yn dad i blant tair a phedair oed, ac yn cael ei ddal ar safle milwrol ger Tacoma.
Yn ystod teithiau i Irac roedd y milwr wedi diodde’ anaf i’w ben mewn damwain car pan fu i fom ffrwydro ar ochr-y-ffordd, yn ôl ei gyfreithiwr, ac mi gafodd darn o’i droed ei dorri i ffwrdd wedi iddo gael ei anafu tra’n rhyfela.