Mae milwr Americanaidd sydd wedi ei gyhuddo o saethu’n farw 16 o bobl mewn pentrefi yn Afghanistan, wedi cael ei symud i Kuwait.
Daeth y cyhoeddiad neithiwr wrth i bobl Afghanistan fynnu bod y milwr yn wynebu achos troseddol yn y wlad.
Roedd y milwr wedi ei gadw yn y ddalfa ar safle milwrol yr UDA yn Kandahar ond cafodd ei gludo i Kuwait neithiwr, yn ôl llefarydd yr UDA.
Mae na bryder y gall yr achos gynyddu’r tensiwn rhwng Afghanistan a’r UDA.
Dywed lluoedd America nad yw’r ffaith bod y milwr wedi cael ei symud i Kuwait yn golygu y bydd achos troseddol yn cael ei gynnal tu allan i Afghanistan.
Dyw enw’r milwr heb gael ei gyhoeddi hyd yn hyn. Y gred yw ei fod wedi mynd i gartrefi pobl ynghanol nos a’u saethu’n farw gan roi rhai o’r cyrff ar dân.