Tref Misrata yn Libya
Mae teulu newyddiadurwr o Gymru sy’n gaeth yn Libya yn fwy gobeithiol am ei ddyfodol ar ôl iddo gael ei drosglwyddo i ddwylo’r awdurdodau yno.

Maen nhw’n gobeithio y bydd rheolau a chytundebau rhyngwladol yn gwneud yn siŵr bod Gareth Montgomery-Johnson, sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin, yn cael mwy o chwarae teg.

Fe gafodd y newyddion ei groesawu gan chwaer y dyn camera, wrth siarad gyda’r BBC – a hynny dair wythnos ar ôl iddo ef a newyddiadurwr arall gael eu cipio gan garfan filwrol gerllaw tref Misrata.

Roedd y ddau’n gweithio i wasanaeth teledu Saesneg Iran, Press TV, ond roedd y garfan filwrol yn dweud nad oedd ganddyn nhw bapurau priodol ac yn eu cyhuddo o fod yn ysbiwyr.

Roedd pennaeth y garfan wedi dweud o’r dechrau y byddai’r newyddiadurwyr – Gareth Montgomery-Johnson a’r gohebydd, Nicholas Davies – yn cael eu trosglwyddo i ofal y Llywodraeth.

Mae’r Swyddfa Dramor yn Llundain wedi cadarnhau bod eu swyddogion yn Libya’n rhoi cyngor i’r ddau.