Mae na bryder y bydd na ymosodiadau ar filwyr Prydeinig i ddial yn erbyn y milwr Americanaidd a saethodd 16 o drigolion mewn pentref yn ne Afghanistan nos Sadwrn – roedd naw o blant ymhlith y rhai gafodd eu lladd.
Dyna rybudd y Cyrnol Richard Kemp, pennaeth y lluoedd arfog yn Afhganistan. Mae’r Taliban eisoes wedi addo y byddan nhw’n dial am weithred y milwr.
Dywedodd y Cyrnol Richard Kemp y byddai’r ymddiriedaeth rhwng lluoedd Prydain a’r bobl yn Afghanistan yn dirywio o ganlyniad i’r digwyddiad.
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi mynegi ei “sioc a thristwch” am y digwyddiad “trasig” wrth Arlywydd Afghanistan Hamid Karzai. Mae Karzai eisoes wedi dweud bod y digwyddiad yn “anfaddeuol”.
Mae swyddogion Nato hedfyd wedi ymddiheuro am y digwyddiad ac mae penaethiaid lluoedd America yn cynnal ymchwiliad.
Mae’n debyg bod milwr Americanaidd yn cael ei gadw yn y ddalfa yn un o wersylloedd milwrol Nato yn y wlad. Y gred yw bod y milwr wedi gadael ei wersyll yn nhalaith Kandahar yn ystod y nos a mynd o gwmpas yn saethu pobl yn eu tai.
Yn ogystal â’r rhai a gafodd eu lladd, cafodd pump eu hanafu, gan gynnwys bachgen 15 oed.
Roedd lluoedd America wedi cynddeiriogi pobl yn Afghanistan fis diwethaf ar ôl i gopiau o’r Koran gael eu llosgi yn un o’u safleoedd milwrol.