Arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai
Mae Arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai, wedi mynnu esboniad gan lywodraeth America ar ôl i un o’u milwyr ladd 16 o bobl gan gynnwys naw o blant yn y wlad.
Roedd y milwr Americanaidd wedi gadael ei wersyll yn nhalaith Kandahar yn ystod y nos a mynd o gwmpas yn saethu pobl yn eu tai.
“Llofruddiaeth bwriadol o bobl ddiniwed yw hyn ac mae’n anfaddeuol,” meddai Karzai mewn datganiad.
Yn ogystal â’r rhai a gafodd eu lladd, cafodd pump eu hanafu, gan gynnwys bachgen 15 oed o’r enw Rafiullah a gafodd ei saethu yn ei goes ac a siaradodd â’r arlywydd dros y ffôn.
Roedd wedi disgrifio wrtho sut yr aeth y milwr Americanaidd i mewn i’w dŷ yng nghanol y nos, deffro ei deulu a chychwyn eu saethu.
Ymddiheuro
Mae swyddogion Nato wedi ymddiheuro am y digwyddiad.
“Ni allaf esbonio’r hyn a symbylodd y fath weithredoedd treisgar, ond doedden nhw ddim mewn unrhyw ffordd yn rhan o weithgaredd milwrol awdurdodedig Llu Diogelwch Rhyngwladol Nato,” meddai’r Is Gadfridog Adrian Bradshaw, dirprwy gomander lluoedd Nato yn Afghanistan.
Mae’r milwr yn dal yn y ddalfa yn un o wersylloedd milwrol Nato yn y wlad.