Cafodd beiciwr modur ei ladd pan gollodd reolaeth ar ei feic mewn cylchfan yn Abertawe y bore yma.

Roedd y dyn 21 oed yn gyrru beic modur Kawasaki ER-5 ar ffordd yr A483 pan aeth i wrthdrawiad â’r gylchfan yn y gyffordd rhwng Fabian Way a Baldwins Terrace tua deng munud i naw. Cafodd ei ruthro i’r ysbyty, ond fe fu farw’n ddiweddarach o’i anafniadau.

Fe wnaeth yr heddlu gau’r lôn am bedair awr a hanner wrth iddyn nhw gynnal eu hymchwiliadau cychwynnol.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod nhw’n apelio am dystion i’r digwyddiad.

“Roedd beic modur Kawasaki ER-5 glas yn cael ei yrru gan ddyn 21 oed yn teithio i’r dwyrain ar yr A483 o gyfeiriad Abertawe i gyfeiriad Jersey Marine pan wrthdrawodd â’r ynys draffig ar y gyffordd ac yna â’r rheiliau ar ochr draw y gyffordd,” meddai’r llefarydd.

Mae Heddlu’r De yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a stopiodd i roi help eu ffonio ar 01792 456999 neu 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.