Yn dilyn marwolaeth dau wystl yn Nigeria ddoe mae gwleidyddion yn yr Eidal wedi dweud eu bod yn anhapus.

Nid oedd Prydain wedi ymgynghori gyda’r Eidal cyn rhoi sêl bendith i geisio achub y gwystlon.

 Saethwyd Chris McManus o Brydain a Franco Lamolinara o’r Eidal yn ystod ymgyrch gan filwyr o Brydain a Nigeria i geisio achub y ddau.

Roedden nhw wedi bod yn gaeth yn nwylo mudiad Islamaidd eithafol Boko Haram ers mis Mai 2011.

Mae’n debyg iddyn nhw gael eu saethu gan y dynion oedd yn eu dal.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron: “Roedd gennym reswm cryf i gredu fod bywydau’r ddau ddyn mewn peryg cynyddol . Ar y cyd â Llywodraeth Nigeria, rhoddais sêl bendith i ymgyrch i achub y ddau.

“Mae’n flin iawn gen i ddweud bod Chris a Franco wedi colli eu bywydau”.

Contractwyr

Roedd y ddau ddyn wedi bod yn gweithio fel contractwyr adeiladu yn Nigeria pan gawson nhw eu cipio gan ddynion arfog.

Mae gwleidyddion yn yr Eidal wedi datgan eu hanfodlonrwydd fod Prydain a Nigeria wedi cynllunio’r ymgyrch sydyn i achub y dynion heb drafod gyda nhw.

“Does dal ddim esboniad pam na hysbyswyd awdurdodau’r Eidal o flaen llaw, er bod ganddyn nhw bresenoldeb amlwg ar dir Nigeria”, meddai Lucio Malan o’r blaid Eidalaidd Pobl Rhyddid.