Mae dros 2,000 o bobl wedi bod yn protestio tu allan i faes awyr yr Unol Daleithiau yn Bagram, Afghanistan  am fod copïau o’r Koran wedi eu llosgi yno.

I ddechrau, roedd 100 o bobl wedi ymgynnull ar ôl clywed fod copïau o’r Koran wedi eu llosgi ar Faes Awyr Bagram, yn nhalaith Parwan.

Yn ol y Cenhedloedd Unedig, camgymeriad oedd llosgi’r llyfrau ac eitemau Islamaidd eraill, a ddigwyddodd fel rhan o broses cael gwared a sbwriel arferol y gwersyll.

“Doedd y digwyddiad ddim yn fwriadol mewn unrhyw ffordd,” dywedodd y Cadfridog John Allen, pennaeth y fyddin Americanaidd yn Afghanistan.

Dros 70 o lyfrau Islamaidd wedi eu llosgi

Dywedodd Zaki Zahed, pennaeth y cyngor lleol, fod swyddogion y fyddin wedi ei gymryd e i’r llosgfa ar y gwersyll. Roedd rhwng 60 a 70 o lyfrau wedi eu llosgi, gan gynnwys copïau o’r Koran.

“Roedd rhai wedi llosgi. Roedd rhai wedi hanner llosgi,” dywedodd Ahmad Zaki Zahed.

Roedd rhwng 2,000 a 2,5000 o brotestwyr, dywedodd Zia Ul Rahman, dirprwy pennaeth yr heddlu taleithiol.

“Mae pobl yn grac iawn,” dywedodd Rahman wrth i’r brotest barhau. “Mae’n teimlo’n negatif iawn. Mae rhai yn tanio drylliau yn yr awyr, ond does ’na ddim damweiniau wedi bod.”

Daeth diwedd i’r brotest pan gytunwyd y byddai dirprwyaeth yn trafod y mater gydag arlywydd Afghanistan.