Senedd Gwlad Groeg
Mae Aelodau Seneddol yn Athen wedi cymeradwyo rhagor o doriadau sylweddol i’w cyllid er mwyn mynd i’r afael â thrafferthion ariannol y wlad ac osgoi methdaliad.
Ond mae gwrthwynebiad i’r mesur wedi arwain at rhwyg o fewn y Senedd, a rhai o’r terfysgoedd gwaethaf yn y wlad ers blynyddoedd.
Cafodd mwy na 40 o adeiladau eu rhoi ar dân gan gynnwys banciau a siopau, a chafodd nifer o bobl eu hanafu wrth i filoedd o wrthydystwyr brotestio yn erbyn rhagor o arbedion o 3.3 biliwn ewro a fydd yn golygu bod cyflogau a phensiynau yn cael eu torri a swyddi yn y sector cyhoeddus yn diflannu.
Wrth dderbyn y cynlluniau, fe fydd gwlad Groeg yn derbyn 130 biliwn ewro gan yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd y prif weinidog, Lukas Papademos wedi rhybuddio cyn y bleidlais na fyddai cyflogau a phensiynau’n cael eu talu, na fyddai ysgolion ac ysbytai yn cael eu hariannu, ac y byddai banciau’n methu petai’r Senedd yn gwrthod y cynlluniau diweddaraf.